Rhif y ddeiseb: P-06-1404

Teitl y ddeiseb:  Cynyddu eglurder a hawliau’r rhai sy’n cael Taliadau Uniongyrchol neu Grant Byw’n Annibynnol Cymru er mwyn iddynt fyw'n annibynnol

Geiriad y ddeiseb: Mae anghydbwysedd pŵer yn erbyn pobl anabl. Nid yw awdurdodau lleol yn llwyddo i ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar lesiant, rhoi llais a rheolaeth a chydgynhyrchu - egwyddorion craidd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.  Mae angen tegwch a

·         Chymorth eirioli gwell ac mae angen corff cenedlaethol i gynrychioli llais defnyddwyr Taliadau Uniongyrchol

·         Proses datrys anghydfod

·         Dulliau cyfathrebu gwell

·         Paneli cwynion awdurdodau lleol sy’n gwybod am y gyfraith a’r polisïau yng Nghymru

·         Ailhyfforddi staff ALl i sicrhau eu bod yn deall ysbryd a bwriad y Ddeddf

 

I ddyfynnu'r Adroddiad Gwerthuso Terfynol ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 para 6.60: “I'r mwyafrif o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a gyfwelwyd ar gyfer y gwerthusiad hwn, roedd eu profiad yn un o rwystredigaeth. Yn hytrach na'r gobaith a gynigwyd gan y Ddeddf, roedden nhw'n gweld cyfres o rwystrau. Roedd y rhain yn cynnwys agwedd gymharol ‘tocynistaidd’ at wrando, anghydbwysedd grym rhyngddyn nhw a gweithwyr proffesiynol, yr angen i orfod ceisio galw gweithwyr proffesiynol yn barhaus am gymorth, a diffyg cydnabyddiaeth o’u hawliau yn enwedig o ran materion bod yn sensitif i'r hinsawdd ymhlith pethau eraill. Roedd y rhwystrau hyn yn gweithio yn erbyn y profiad oedd yn cael ei ‘gynnig’ a'i ‘addo’ gan egwyddorion sylfaenol y Ddeddf.”
Mae pobl anabl yn wynebu loteri cod post o ran y wybodaeth a'r gwasanaethau y gallant eu disgwyl. Mae angen gweithredu nawr.
Siawns bod arian Grant Byw'n Annibynnol Cymru wedi'i glustnodi ac na all unrhyw Gyngor ei adfachu ar fympwy? Beth ddigwyddodd i’r syniad o gydgynhyrchu?
Gweler cynsail cyfreithiol R (BG) V Cyngor Swydd Suffolk 2021 [EWHC] 3368 (Admin)

 


1.        Y cefndir

Mae egwyddorion craidd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cynnwys llais a rheolaeth ar gyfer yr unigolyn; ffocws ar eu llesiant a'u canlyniadau personol; a chydgynhyrchu (gan gynnwys yr unigolyn fel partner cyfartal).

Symiau ariannol yw Taliadau Uniongyrchol sydd ar gael gan awdurdodau lleol i unigolion, neu eu cynrychiolydd, i’w galluogi i ddiwallu eu hanghenion gofal a chymorth, fel dewis amgen i ofal neu gymorth a drefnir gan yr awdurdod lleol. Gall hyn roi llawer mwy o hyblygrwydd i’r unigolyn a rheolaeth dros eu pecyn gofal a chymorth. Er enghraifft, byddai modd iddynt gyflogi cynorthwyydd personol o'u dewis. Mae rhagor o wybodaeth am y cynnig a chwmpas Taliadau Uniongyrchol ar gael yn Rhan 4 Cod Ymarfer (diwallu anghenion)Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Yn ôl y Cod, rhaid i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth a chymorth sy’n briodol ac yn hygyrch er mwyn galluogi pobl i benderfynu a ydynt yn dymuno cael Taliadau Uniongyrchol. Os cael Taliadau Uniongyrchol yw’r hyn a ddewisir, rhaid i’r taliadau hyn fod ar gael ym mhob achos lle maent yn galluogi unigolyn i sicrhau canlyniadau personol. 

Nid yw Grant Byw'n Annibynnol Cymru yn bodoli mwyach. Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddwyd y byddai’r Grant yn cau ym mis Mawrth 2019 yn dilyn cyfnod pontio, ac y byddai’r holl dderbynwyr yn cael eu hasesu gan eu hawdurdod lleol ar gyfer gofal a chymorth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Trosglwyddwyd y cyllid llawn o £27 miliwn y flwyddyn i Grant Cynnal Refeniw awdurdodau lleol o 2018 ymlaen.

Mae gwybodaeth am hawliau i eiriolaeth ar gael yn Rhan 10 Cod Ymarfer (Eiriolaeth) mewn perthynas â Rhan 10 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Yn 2023, cyhoeddwyd gwerthusiad annibynnol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Daw’r gwerthusiad i’r casgliad bod ymdeimlad cynyddol o wahaniaethau mewn ymarfer a chanlyniadau oddi wrth weledigaeth ac egwyddorion gwreiddiol y Ddeddf. Canfu yn gyffredinol y teimlai pobl nad oedd eu profiadau o dan y Ddeddf wedi cyrraedd eu disgwyliadau o’r hyn yr oeddent yn gobeithio y byddai’n ei wneud. 

Mae'r adroddiad terfynol yn gwneud nifer o argymhellion, er enghraifft, dywed y “dylid rhoi blaenoriaeth i wneud llais a rheolaeth yn ‘realiti’ i bawb, a gellid mynd i’r afael â hyn drwy fuddsoddi mewn eiriolaeth, ochr yn ochr â gweithio gyda sefydliadau a angorir yn y gymuned a buddsoddi ynddyn nhw."

Yn 2022 cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad ar ddarpariaeth Taliadau Uniongyrchol awdurdodau lleol yng Nghymru. Canfu fod y systemau i reoli a chefnogi pobl i ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol yn amrywio’n fawr ledled Cymru, gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr yn derbyn safonau gwasanaeth gwahanol. Daw’r adroddiad i’r casgliad nad yw pobl yng Nghymru yn cael eu cefnogi’n gyson i dderbyn Taliadau Uniongyrchol.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriaducyflwyno deddfwriaeth newydd i ganiatáu defnyddio Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Yn 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth sylfaenol, gan gynnwys cyflwyno Taliadau Uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG.

2.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Ar 25 Mai 2023, cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus sesiwn dystiolaeth gydag arbenigwyr academaidd i drafod y gwerthusiad o’r Ddeddf, y camau nesaf ac unrhyw feysydd sydd angen sylw pellach. 

Yn dilyn y cyfarfod, ysgrifennodd y Pwyllgorau ar y cyd at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i dynnu sylw at faterion a godwyd yn ystod y sesiwn dystiolaeth.

Yn ystod y gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft yng nghyfarfod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 17 Ionawr 2024, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

We're addressing direct payments for continuing healthcare, for example, particularly for individuals who are transitioning from social care to a healthcare-funded package to be able to access direct payments. That is a big issue for disabled people and that is one of the things that we're in the process of looking at now, and we hope to bring in legislation about that. So, that will be a great help, I think, to disabled people in a social care Bill. 

3.     Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywed Llywodraeth Cymru fod trosglwyddo cyllid ar gyfer cyllid Grant Byw’n Annibynnol Cymru yn 2019 i’r Grant Cynnal Refeniw yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ddarparu’r gwasanaethau hynny ac yn alinio gofynion ynghylch ymgysylltu a chydgynhyrchu ag egwyddorion y Ddeddf, cam a groesawyd gan ymgyrchwyr #saveWILG.

Dywed y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn hanfodol bod mwy o bobl yn cael gwybod am fanteision Taliadau Uniongyrchol, a bod mynediad a darpariaeth yn gyson ledled Cymru. Dywed fod Llywodraeth Cymru wedi cysylltu ag Archwilydd Cyffredinol Cymru ac awdurdodau lleol i gynnwys argymhellion adroddiad Archwilio Cymru mewn Canllawiau Statudol.

Mae’r Dirprwy Weinidog yn sôn am Fil Gofal Cymdeithasol sydd ar ddod gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cynnwys mesur i wella’r rhyngwyneb rhwng Gofal Iechyd Parhaus a Thaliadau Uniongyrchol. Dywed y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno canllawiau newydd i awdurdodau lleol a fydd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt hunanasesu eu perfformiad a’u cyflawniad yn erbyn wyth safon ansawdd. Mae hyn yn cynnwys dangos, gyda thystiolaeth, sut y maent yn hybu llais a rheolaeth unigolion sydd angen gofal a chymorth ac yn eu helpu i fyw mor annibynnol â phosibl. Bydd angen i awdurdodau lleol ddangos sut y caiff safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr eu hadlewyrchu yn asesiad yr awdurdod o'i berfformiad. Daw’r Dirprwy Weinidog i’r casgliad ei bod yn disgwyl gweld cynnydd clir ar yr ymrwymiadau a amlinellwyd eleni.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.